Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2016 Rhif (Cy. )
Y GYMRAEG
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”).
Mae adran 25 o’r Mesur yn darparu bod rhaid i berson gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru os bodlonir, a thra bodlonir, chwe amod. Amod 1 yw bod y person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau. Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i’r person. Nid yw’r amodau eraill yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae adran 33 o’r Mesur yn darparu bod person yn agored i orfod cydymffurfio â safonau os yw’r person (a) yn dod o fewn Atodlen 5 a hefyd o fewn Atodlen 6, neu (b) yn dod o fewn Atodlen 7 a hefyd o fewn Atodlen 8. Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw’r person yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 5. Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw’r person (a) yn cael ei bennu yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 6 (“y tabl yn Atodlen 6”), neu (b) yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno. Nid yw Atodlenni 7 ac 8 yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.
Mae adran 36 yn darparu bod safon yn gymwysadwy i berson os yw’r safon yn perthyn i ddosbarth o safonau a bennir yng ngholofn 2 o gofnod y person yn y tabl yn Atodlen 6. Mae pob un o’r canlynol yn ddosbarth o safonau—
(i) safonau cyflenwi gwasanaethau,
(ii) safonau llunio polisi,
(iii) safonau gweithredu,
(iv) safonau hybu, a
(v) safonau cadw cofnodion.
Mae adran 35 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at berson sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5, neu gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5.
Mae adran 38 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn 2 o gofnod yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o’r canlynol—
(i) safonau cyflenwi gwasanaethau;
(ii) safonau llunio polisi;
(iii) safonau gweithredu; a
(iv) safonau cadw cofnodion.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 6 i’r Mesur drwy—
(a) mewnosod personau newydd yn Atodlen 6 a phennu dosbarthiadau o safonau yng ngholofn 2 o gofnod pob person;
(b) tynnu personau oddi ar Atodlen 6 pan fo’n briodol, er enghraifft os yw sefydliad wedi ei ddiddymu;
(c) diweddaru Atodlen 6 i adlewyrchu newidiadau mewn enwau ers i’r Mesur gael ei wneud.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif (Cy. )
Y GYMRAEG
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
Gwnaed ***
Yn dod i rym 15 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 35, 38 a 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Chwefror 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Diwygio Atodlen 6
2. Mae Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen.
Prif Weinidog Cymru
Dyddiad
YR ATODLEN Erthygl 2
DIWYGIADAU I ATODLEN 6
1. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur, yn y mannau priodol mewnosoder—
“Yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol (“The Human Fertilisation and Embryology Authority”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Yr Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil (“The Civil Nuclear Police Authority”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain (“British Transport Police Authority”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (“The Human Tissue Authority”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (“The Board of Community Health Councils in Wales”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Y Bwrdd Ystadegau (“The Statistics Board”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig (“Career Choices Dewis Gyrfa Limited”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Coleg Ceredigion |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Coleg Sir Gâr |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (“Police and Crime Commissioners”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (“The General Pharmaceutical Council”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth (“The National Association of Citizens Advice Bureaux”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Cymwysterau Cymru (“Qualifications Wales”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Glandŵr Cymru (“The Canal & River Trust”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Gofal Cymru |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Hafal |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Leonard Cheshire Disability |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (“Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Royal Voluntary Service |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Y Sefydliad Ffilm Prydeinig (“The British Film Institute”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Swyddfa Archwilio Cymru (“The Wales Audit Office”) |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“Wallich-Clifford Community |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
“WEA YMCA CC Cymru |
Safonau cyflenwi gwasanaethau Safonau llunio polisi Safonau gweithredu Safonau cadw cofnodion” |
2. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 (public bodies etc: standards) i’r Mesur, yn y mannau priodol mewnosoder—
“The Board of Community Health Councils in Wales (“Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The British Film Institute (“Y Sefydliad Ffilm Prydeinig”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“British Transport Police Authority (“Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The Canal & River Trust (“Glandŵr Cymru”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Career Choices Dewis Gyrfa Limited (“Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Civil Nuclear Police Authority (“Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Coleg Ceredigion |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Coleg Sir Gâr |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The General Pharmaceutical Council (“Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Gofal Cymru |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Hafal |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales (“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The Human Fertilisation and Embryology Authority (“Yr Awdurdod Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The Human Tissue Authority (“Yr Awdurdod Meinweoedd Dynol”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Leonard Cheshire Disability |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The National Association of Citizens Advice Bureaux (“Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Police and Crime Commissioners (“Comisiynwyr Heddlu a Throseddu”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Qualifications Wales (“Cymwysterau Cymru”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Royal Voluntary Service |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The Statistics Board (“Y Bwrdd Ystadegau”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“The Wales Audit Office (“Swyddfa Archwilio Cymru”) |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“Wallich-Clifford Community |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
“WEA YMCA CC Cymru |
Service delivery standards Policy making standards Operational standards Record keeping standards” |
3. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a) “Awdurdodau’r Heddlu (“Police Authorities”)”;
(b) “Ymddiriedolaethau Prawf (“Probation Trusts”)”;
(c) “Yr Asiantaeth Genedlaethol er Gwella Plismona (“The National Policing Improvement Agency”)”;
(d) “Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (“The University of Wales Institute, Cardiff”)”;
(e) “Yr Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol (“National Clinical Assessment Service”)”;
(f) “Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd (“The Olympic Delivery Authority”)”;
(g) “Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (“The British Waterways Board”)”;
(h) “Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (“The Sustainable Development Commission”)”;
(i) “Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (“The Legal Services Commission”)”;
(j) “Comisiwn y Loteri Genedlaethol (“The National Lottery Commission”)”;
(k) “Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol (“The Social Fund Commissioner”)”;
(l) “Y Cronfeydd Byw’n Annibynnol (“The Independent Living Funds”)”;
(m) “Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr (“The Royal Pharmaceutical Society of Great Britain”)”;
(n) “Cyngor Ffilm y DU (“UK Film Council”)”;
(o) “Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (“Universities and Colleges Admission Service”)”;
(p) “Llais Defnyddwyr (“Consumer Focus”)”;
(q) “Prifysgol Cymru, Casnewydd (“The University of Wales, Newport”)”;
(r) “Prifysgol Glandŵr (“Glandŵr University”); a
(s) “Prifysgol Morgannwg (“University of Glamorgan”)”.
4. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a) “Police Authorities (“Awdurdodau’r Heddlu”)”;
(b) “Probation Trusts (“Ymddiriedolaethau Prawf”)”;
(c) “The British Waterways Board (“Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain”)”;
(d) “Consumer Focus (“Llais Defnyddwyr”)”;
(e) “Glandŵr University (“Prifysgol Glandŵr”);
(f) “The Independent Living Funds (“Y Cronfeydd Byw’n Annibynol”)”;
(g) “The Legal Services Commission (“Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol”)”;
(h) “National Clinical Assessment Service (“Yr Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol”)”;
(i) “The National Lottery Commission (“Comisiwn y Loteri Genedlaethol”)”;
(j) “The National Policing Improvement Agency (“Yr Asiantaeth Genedlaethol er Gwella Plismona”)”;
(k) “The Olympic Delivery Authority (“Awdurdod Gweithredu’r Gemau Olympaidd”)”;
(l) “The Royal Pharmaceutical Society of Great Britain (“Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr”)”;
(m) “The Social Fund Commissioner (“Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol”)”;
(n) “The Sustainable Development Commission (“Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy”)”;
(o) “UK Film Council (“Cyngor Ffilm y DU”)”;
(p) “Universities and Colleges Admission Service (“Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau”);
(q) “University of Glamorgan (“Prifysgol Morgannwg”)”;
(r) The University of Wales Institute, Cardiff (“Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd”)”; a
(s) “The University of Wales, Newport (“Prifysgol Cymru, Casnewydd”)”.
5. Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur—
(a) yn lle “Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“The General Teaching Council for Wales”)” rhodder “Cyngor y Gweithlu Addysg (“Education Workforce Council”)”;
(b) yn lle “Y Cyngor Proffesiynau Iechyd (“The Health Professions Council”)” rhodder “Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (“The Health and Care Professions Council”)”;
(c) yn lle “Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd (“The Council for Healthcare Regulatory Excellence”)” rhodder “Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (“The Professional Standards Authority for Health and Social Care”)”;
(d) yn lle “Ffocws ar Deithwyr (“Passenger Focus”)” rhodder “Transport Focus”; ac
(e) yn lle “Panel Asesu Rhenti i Gymru (“The Rent Assessment Panel for Wales”)” rhodder “Y pwyllgorau asesu rhenti i Gymru (“The rent assessment committees for Wales”)”.
6. Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur—
(a) yn lle “The Council for Healthcare Regulatory Excellence (“Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd”)” rhodder “The Professional Standards Authority for Health and Social Care (“Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol”)”;
(b) yn lle “The General Teaching Council for Wales (“Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru”)” rhodder “Education Workforce Council (“Cyngor y Gweithlu Addysg”)”;
(c) yn lle “The Health Professions Council (“Y Cyngor Proffesiynau Iechyd”)” rhodder “The Health and Care Professions Council (“Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal”)”;
(d) yn lle “Passenger Focus (“Ffocws ar Deithwyr”)” rhodder “Transport Focus”; ac
(e) yn lle “The Rent Assessment Panel for Wales (“Panel Asesu Rhenti i Gymru”)” rhodder “The rent assessment committees for Wales (“Y pwyllgorau asesu rhenti i Gymru”)”.
7. Yn nhestun Cymraeg paragraff 2 o Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y diffiniad o “Ffocws ar Deithwyr” (“Passenger Focus”) a mewnosoder yn y man priodol “ystyr “Transport Focus” yw’r Cyngor Teithwyr a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheilffyrdd 2005;”.
8. Yn nhestun Saesneg paragraff 2 o Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y diffiniad o “Passenger Focus” (“Ffocws ar Deithwyr”) a mewnosoder yn y man priodol ““Transport Focus” means the Passengers’ Council established under the Railways Act 2005;”.